(Click here to view this page in English)
Mae Cronfa Catalydd yr YICA wedi ei ddylunio i helpu ymchwilwyr yn Nghymru ennill grantiau ymchwil.
Mae’r gronfa hon yn rhoi swm ariannol bychain i sbarduno a galluogi ymchwilwyr yn Prifysgolion Cymru i wella eu siawns o ennill cais am gyllid ymchwil, neu i adeiladu’r cydweithio sydd ei angen i ennill cyllid yn y dyfodol.
Mae’r alwad gychwynnol am geisiadau ar agor tan hanner nos ar y 12fed o Fedi, 2022. Byddwn yn cymryd ceisiadau ar sail dreigl ar ôl hynny i ddefnyddio unrhyw arian dros ben. Bydd angen i pob gwaith sydd wedi ei ariannu gan y Cronfa Catalydd fod wedi ei gwblhau a’i anfonebu (gyda tystiolaeth ar ffurf derbyniadau) erbyn y 1af of Fawrth 2023.
Gweithgareddau Cymwys
Esiamplau o weithgareddau hoffem ariannu:
- Teithio domestig a rhyngwladol lle mae’n hanfodol helpu i ffurfio neu ddatblygu consortia
- Digwyddiadau rhwydweithio wedi’u hanelu at alwadau ariannu penodol neu adeiladu consortia o amgylch materion sy’n dod i’r amlwg
- Cefnogaeth i ysgrifennu cynigion
- Cyllid rhannol ar gyfer pryniannau athrawon i alluogi DP i gael amser i wneud cais am grantiau mawr
- Cyflogaeth tymor byr neu estyniadau contract lle bydd y gweithwyr yn gweithio ar gais yn unig (dim gorbenion cyflogaeth)
Mae angen i bob gweithgaredd arfaethedig fod yn ymwybodol o garbon, a lle mae gweithgareddau carbon-ddwys megis teithio yn cael eu cynnwys rhaid eu cyfiawnhau.
Rhaid i’r cais am gyllid ymchwil gael un neu fwy o brifysgolion Cymru fel derbynnydd cyllid, ond nid oes rhaid i’r ymchwil gymryd rhan yn Gymru yn unig. Rydym yn hynod o awyddus i ariannu prosiectau sydd yn cynnwys cydweithio ar draws nifer o sefydliadau Cymreig a/neu cysylltiadau â rhanddeiliaid allanol yng Nghymru.
Dylai’r ymchwil ganolbwyntio ar un neu fwy o’r pynciau canlynol:
- ynni carbon isel
- datgarboneiddio
- bioeconomi
- atebion sy’n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd
- yr argyfwng natur
Bydd angen i pob gwaith sydd wedi ei ariannu gan y Cronfa Catalydd fod wedi ei gwblhau a’i anfonebu (gyda tystiolaeth ar ffurf derbyniadau) erbyn y 1af of Fawrth 2023.
Pwy all wneud cais
I fod yn gymwys rhaid i chi fod naill ai:
- astudio PhD mewn Prifysgol yn Cymru
- yn cael eich cyflogi gan brifysgol yn Cymru fel ymchwilydd
- yn cael eich cyflogi gan brifysgol yn Cymru ac mewn swydd academaidd ar lefel darlithydd neu uwch
Sud I wneud cais
Gyrrwch eich ffurflen gais yn defnyddio y ffurflen yma: defnyddiwch y ffurflen hon.
Mae y galwad yma am ceisiadau yn agored hyd at y 12fed o Fedi 2022. Os na bydd y cyllid I gyd wedi ei ddefnyddio gan y ceisiadau cyfnod cyntaf, yna byddem yn galw am cesiadau ar sail dreigl i ddefnyddio gweddill yr arian.
Bydd ymateb i’r ceisiadau yn cael eu hysbysu erbyn 26ain o Fedi 2022. Fe ddisgwylir i’r arian cychwynol cael ei dderbyn gan eich prifysgol erbyn 31ain o Hydref 2022.
CC
Sut caiff y ceisiadau eu barnu?
Caiff y ceisiadau eu barnu gan panel gyda cynrychiolwyr o weithwyr y YICA Rhwydwaith Ymchwil Cymru a aeoldau or grwp llywio. Bydd y ceisiadau yn cael eu scorio yn seiliedig ar eu addasrwydd ar gyfer cylch gwaith rhwydwaith ymchwil YICA (gweler yr awgrymiadau focws uchod), yr elw posibl o’r fuddsoddiad ac i ba raddau y mae’r prosiect yn meithrin cydweithrediad rhwng sefydliadau ymchwil Cymreig a/neu ddiwydiant. Yn ogystal, byddwn yn chwilio am gynigion sy’n ymwybodol o garbon ac sy’n cynrychioli gwerth am arian.
Beth yw lleiafrif a mwyafrif y terfynnau ariannu?
Does dim isafswm i’r cais. Rydym am glywed eich syniadau mwyaf arloesol ac effeithiol ar sut i ddefnyddio’r cyllid hwn. Uchafswm Y Cronfa Catalydd yw £10,000 gan gynnwys TAW. Dylid y trafodion i gyd ddangos gwerth am arian.
Beth fydd rhaid i mi ddarparu i’r rhwydwaith ymchwil YICA?
Os y byddwch yn llwyddiannus ac yn debyn Cronfa Catalydd YICA, disgwylir i chi weithio gyda ni i gyhoeddi choeddiad achos byr yn hyrwyddo y cymorth a gawsoch a llwyddiant eich gwaith. Byddem hefyd yn rhoi manylion pawb a gefnogwyd yn ariannol yn ein adroddiad i’n cyllidwyr Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Arloesedd Cymru.
A all fy nghais am gyllid ymchwil gynnwys partneriaid nad ydynt yn brifysgol neu bartneriaid o’r tu allan i Gymru ?
Byddem yn caniatau hyn, a cymaint a sa chi licio, ond mae’n rhaid i derbynydd y Cronfa Catalydd YICA fod yn cael ei gyflogi gan Prifysgol yn Cymru. Disgwylir bod oleiaf un prifysgol yn Cymru yn bartner i’w ariannu yn y cais am gyllid ymchwil yr ydych yn gweithio arno.
Sut y byddech yn cael y cyllid?
Fel rhan or cais dylid cyflwyno costau rhagamcanol. Disgwylir i chi dderbyn y cyllid cychwynol or Cronfa Catalydd erbyn 31ain Hydref 2022. Dylid y gwaith cael ei gwblhau ai anfonebu erbyn 1af o Fawrth 2023, bydd disgwyl i chi yrru anfnoeb i’r Cronfa Catalydd (gyda derbynebau ategol o waith a gwblhawyd) am weddill eich costau.
A yw gorbenion cyflogaeth yn gostau cymwys?
Na, nid yw gorbenion cyflogaeth yn gymwys fel y gall gwneud y mwyaf o effaith y cronfeydd. Oherwydd y swm mwyafrif o £10,000 yn cynnwys TAW, byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar hyd y cyflogaeth gall cael ei gynnig a hefyd cael effaith ar allbwn y gwaith dan law. Gall eich tim gwasaneth cefnogi ymchwil helpu efo hepgor costau gorbenion, gyda caniatad yn tebygol o ddod gan pennaeth yr ysgol/coleg neu DIG ymchwil.
A allaf wneud cais am gyllid ôl-weithredol ar gyfer costau yr aed iddynt eisoes?
Na, dylid pob gwaith gychwyn wedi i chi gael hysbyseb o lwyddiant a cyn y 1af o Fawrth 2023.
Pwy ydw i yn cysylltu efo os oes gennyf gwestiwn?
Cysylltwch drwy ebost nrnlcee@bangor.ac.uk os oes gennych ymholiad.
O ble ddaeth y cyllid hwn?
Mae Cronfa Gatalydd LCEE wedi ei gefnogi gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru a Rhwydwaith Arloesedd Cymru.